Judith 4:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Rhoesant sachliain am eu llwynau, hwy a'u gwragedd, eu plant, eu hanifeiliaid, a phob preswylydd estron a gwas cyflog a chaethwas,

11. a syrthiodd pob gŵr o Israeliad a oedd yn byw yn Jerwsalem, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, o flaen y deml; taenasant ludw ar eu pennau a lledu eu sachlieiniau o flaen yr Arglwydd.

12. Ar ôl gwisgo'r allor hefyd â sachliain, gwaeddasant yn daer ag un llais ar Dduw Israel, iddo beidio â gadael i'w babanod gael eu dwyn yn ysbail, i'w gwragedd fynd yn anrhaith, i'w dinasoedd treftadol gael eu difodi a'u teml ei halogi er llawenydd maleisus y Cenhedloedd.

Judith 4