Judith 2:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Gwnaethant benderfyniad i ddinistrio pawb nad oedd wedi ufuddhau i orchymyn y brenin.

4. Yna, wedi iddo orffen egluro'i gynllun, galwodd Nebuchadnesar brenin Asyria ar Holoffernes, prif gadfridog ei fyddin, a'i ddirprwy, a dywedodd wrtho,

5. “Dyma orchymyn y brenin mawr, Arglwydd yr holl ddaear: dos allan o'm gŵydd, a chymer gyda thi wŷr eofn a chadarn, chwech ugain mil o wŷr traed a deuddeng mil o wŷr meirch.

6. Yr wyt i ryfela yn erbyn yr holl ranbarth gorllewinol, am i'w drigolion anufuddhau i'm gorchymyn i.

Judith 2