Judith 16:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Am dri mis, bu'r bobl yn gorfoleddu yn Jerwsalem gerbron y cysegr, ac arhosodd Judith gyda hwy.

21. Ar ôl hyn aeth pawb i'w gartref ei hun, a dychwelodd Judith i Bethulia a byw ar ei hystad. Ac yr oedd enw da iddi drwy'r wlad ar hyd ei hoes.

22. Bu llawer yn ei chwenychu, ond ni roddodd ei hun i un gŵr o'r dydd y bu farw ei phriod Manasse a'i gladdu gyda'i hynafiaid.

23. Cynyddodd ei henwogrwydd yn ddirfawr fel yr heneiddiai yn nhŷ ei gŵr, nes iddi gyrraedd yr oedran o gant a phump. Rhoddodd ei rhyddid i'w morwyn. Bu farw yn Bethulia, a chladdwyd hi yn yr ogof lle gorweddai ei gŵr Manasse.

Judith 16