Judith 16:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Cysegrodd Judith i Dduw holl eiddo Holoffernes, a roddodd y bobl iddi, ac offrymodd i Dduw y llen a gymerodd hi ei hun o'i ystafell wely.

20. Am dri mis, bu'r bobl yn gorfoleddu yn Jerwsalem gerbron y cysegr, ac arhosodd Judith gyda hwy.

21. Ar ôl hyn aeth pawb i'w gartref ei hun, a dychwelodd Judith i Bethulia a byw ar ei hystad. Ac yr oedd enw da iddi drwy'r wlad ar hyd ei hoes.

22. Bu llawer yn ei chwenychu, ond ni roddodd ei hun i un gŵr o'r dydd y bu farw ei phriod Manasse a'i gladdu gyda'i hynafiaid.

23. Cynyddodd ei henwogrwydd yn ddirfawr fel yr heneiddiai yn nhŷ ei gŵr, nes iddi gyrraedd yr oedran o gant a phump. Rhoddodd ei rhyddid i'w morwyn. Bu farw yn Bethulia, a chladdwyd hi yn yr ogof lle gorweddai ei gŵr Manasse.

24. Galarodd yr Israeliaid amdani am saith diwrnod. Cyn iddi farw, rhannodd ei heiddo rhwng perthnasau ei gŵr Manasse a'i theulu agosaf ei hun.

Judith 16