Judith 15:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Syrthiodd gweddill trigolion Bethulia ar wersyll Asyria, a chael cyfoeth enfawr o'i ysbeilio.

7. Dychwelodd yr Israeliaid o'r lladdfa a meddiannu'r gweddill, a chafodd y pentrefi a'r ffermydd ar yr ucheldir a'r gwastatir lawer o'r anrhaith, gan fod digonedd ohono.

8. Daeth Joacim yr archoffeiriad, a senedd yr Israeliaid a oedd yn trigo yn Jerwsalem, i syllu ar y daioni a wnaeth yr Arglwydd i Israel, ac i weld Judith a'i chyfarch hi.

9. Daethant ati a'i bendithio yn unfryd a dweud: “Ti yw dyrchafiad Jerwsalem, ti yw gogoniant mawr Israel, ti yw ymffrost balch ein cenedl!

Judith 15