Judith 15:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ffoi hefyd a wnaeth y rhai oedd yn gwersyllu yn yr ucheldir o amgylch Bethulia. Yna rhuthrodd yr Israeliaid, pob gŵr arfog o'u plith, arnynt.

4. Anfonodd Osias i Bethomasthaim, Bebai, Choba a Cola, ac i bob cwr o diriogaeth Israel, i ddweud wrthynt am yr hyn oedd wedi digwydd, er mwyn i bawb ruthro ar eu gelynion a'u difodi.

5. Clywodd yr Israeliaid y newydd, ac yna ymosod, bawb ohonynt, fel un gŵr ar eu gelynion, a'u torri i lawr ar hyd yr holl ffordd i Choba. Wedi iddynt glywed am yr hyn oedd wedi digwydd yng ngwersyll eu gelynion, ymunodd trigolion Jerwsalem a'r holl ucheldir â hwy. Ymosododd gwŷr Gilead a gwŷr Galilea hwythau ar ystlys y gelyn, a'u taro nes cyrraedd Damascus a'i chyffiniau.

6. Syrthiodd gweddill trigolion Bethulia ar wersyll Asyria, a chael cyfoeth enfawr o'i ysbeilio.

7. Dychwelodd yr Israeliaid o'r lladdfa a meddiannu'r gweddill, a chafodd y pentrefi a'r ffermydd ar yr ucheldir a'r gwastatir lawer o'r anrhaith, gan fod digonedd ohono.

8. Daeth Joacim yr archoffeiriad, a senedd yr Israeliaid a oedd yn trigo yn Jerwsalem, i syllu ar y daioni a wnaeth yr Arglwydd i Israel, ac i weld Judith a'i chyfarch hi.

9. Daethant ati a'i bendithio yn unfryd a dweud: “Ti yw dyrchafiad Jerwsalem, ti yw gogoniant mawr Israel, ti yw ymffrost balch ein cenedl!

10. Wrth wneud hyn oll â'th law dy hun, dygaist ddaioni i Israel, a chymeradwyodd Duw dy weithredoedd; bendigedig fyddi yng ngolwg yr Arglwydd Hollalluog yn dragywydd.” A dywedodd yr holl bobl, “Amen!”

11. Anrheithiodd pawb o'r bobl y gwersyll am ddeg diwrnod ar hugain. Rhoesant i Judith babell Holoffernes, ei holl lestri arian, ei welyau, ei gawgiau a'i holl ddodrefn. Cymerodd hithau hwy a llwytho ei mul, gan harneisio'i gwagenni a'u llenwi.

12. Brysiodd holl wragedd Israel i'w gweld, a dawnsiodd rhai ohonynt er anrhydedd iddi. Cymerodd Judith ganghennau yn ei dwylo, a'u dosbarthu i'r gwragedd oedd gyda hi.

13. Gwisgodd hi a'r rhai oedd gyda hi dorchau o ddail olewydd am eu pennau. Aeth o flaen yr holl bobl, gan arwain yr holl wragedd yn y ddawns. Dilynodd holl wŷr Israel, â'u harfwisg amdanynt a thorchau am eu pennau ac emyn ar eu gwefusau.

Judith 15