Judith 13:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Nesaodd at y gwely a gafael yng ngwallt ei ben, a dweud, “Nertha fi, O Arglwydd Dduw Israel, y dydd hwn.”

8. Â'i holl nerth, trawodd ei wddf ddwywaith a thorri ei ben i ffwrdd.

9. Treiglodd ei gorff oddi ar y gwely, a thynnu'r llen i lawr o'r pyst. Ar unwaith dyma hi'n mynd allan a rhoi pen Holoffernes i'w llawforwyn,

10. a dododd hithau ef yn ei chod bwyd. Aeth y ddwy allan gyda'i gilydd fel arfer i weddïo. Aethant trwy'r gwersyll ac o amgylch y dyffryn, a dringo Mynydd Bethulia nes cyrraedd pyrth y dref honno.

Judith 13