Judith 13:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Galwodd Judith o hirbell ar warchodwyr y pyrth: “Agorwch, da chwi, agorwch y porth. Y mae Duw, ein Duw ni, gyda ni i ddangos eto ei allu yn Israel a'i rym yn erbyn ein gelynion, yn union fel y gwnaeth heddiw.”

12. Pan glywodd gwŷr ei thref hi ei llais, aethant i lawr ar frys i borth eu tref a galw ynghyd yr henuriaid.

13. Rhedodd pawb ynghyd, y rhai pwysig a'r dinod, gan mor annisgwyl oedd ei dyfodiad hi. Agorasant y porth a'u croesawu, ac wedi cynnau tân i gael golau, ymgasglasant o'u hamgylch ill dwy.

14. Yna dywedodd Judith wrthynt â llais uchel: “Molwch Dduw, molwch ef! Molwch Dduw, oherwydd ni thynnodd yn ôl ei drugaredd oddi wrth dŷ Israel, ond drwy fy llaw i dinistriodd ein gelynion y nos hon.”

15. Tynnodd y pen allan o'i chod a'i ddangos iddynt, a dweud: “Dyma ben Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, a dyma'r llen a oedd drosto pan orweddai yn ei feddwdod. A thrwy law benyw y trawodd yr Arglwydd ef.

16. Cyn wired â bod byw yr Arglwydd a ofalodd trosof ar y llwybr a gymerais, fy wyneb i a hudodd Holoffernes i'w ddinistr, ac eto ni chyflawnodd ef bechod gyda mi, i'm halogi na'm cywilyddio.”

17. Synnwyd yr holl bobl yn ddirfawr, ac wedi ymgrymu, addolasant Dduw a dweud ag un llais: “Bendigedig wyt ti, ein Duw, a ddiddymodd elynion dy bobl heddiw.”

18. Yna meddai Osias wrthi, “Bendigedig wyt tithau, fy merch, goruwch holl wragedd y ddaear yng ngolwg y Duw goruchaf, a bendigedig yw'r Arglwydd Dduw, Creawdwr nefoedd a daear, a'th dywysodd i dorri pen cadfridog ein gelynion.

19. Oherwydd ni ddiflanna dy obaith di byth o galon neb, wrth iddo gofio am allu Duw.

20. Bydded i Dduw dy ddyrchafu am byth am y gweithredoedd hyn, ac ymweld â thi mewn daioni; ni cheisiaist arbed dy einioes yn wyneb darostyngiad dy bobl, ond aethost allan i ddial eu cwymp, a cherddaist yn union gerbron ein Duw.” Atebodd yr holl bobl: “Amen! Amen!”

Judith 13