Judith 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Meddai Holoffernes wrthi: “Cod dy galon, wraig; paid ag ofni. Oherwydd ni wneuthum i niwed erioed i neb a welodd yn dda wasanaethu Nebuchadnesar, brenin yr holl ddaear.

2. Hyd yn oed yn awr, oni bai i'th bobl, trigolion yr ucheldir, fy niystyru, ni fyddwn wedi codi fy mhicell yn eu herbyn; hwy sydd wedi dwyn hyn arnynt eu hunain.

3. Ond yn awr, dywed wrthyf pam y ffoaist oddi wrthynt a dod atom ni? Oherwydd yr wyt wedi dod i le diogel. Cod dy galon; cei fyw y nos hon a rhag llaw,

Judith 11