4. gwnaeth byrth hefyd a oedd yn codi i uchder o ddeg cufydd a thrigain, ac yn ddeugain cufydd o led, er mwyn i'w holl luoedd gychwyn allan mewn nerth, gyda'i wŷr traed yn eu rhengoedd.
5. Yn y dyddiau hynny, rhyfelodd y Brenin Nebuchadnesar yn erbyn y Brenin Arffaxad yn y gwastatir mawr, sef yr un sydd ar ffiniau Ragau.
6. Daeth i'w gyfarfod holl drigolion yr ucheldiroedd a phawb a drigai ar lannau afonydd Ewffrates, Tigris a Hydaspes, ac yn y gwastatir oedd yn eiddo i Arioch brenin Elam; ac ymunodd llawer o lwythau o feibion Chelewd â'r rheng ymladd.
7. Anfonodd Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid at holl drigolion Persia ac at holl drigolion y gorllewin: preswylwyr Cilicia a Damascus, Lebanon ac Antilibanon, holl drigolion yr arfordir;
8. pobloedd ardal Carmel a Gilead, Galilea Uchaf a gwastatir eang Esdraelon;
9. pawb yn Samaria a'i threfi, ac i'r gorllewin o'r Iorddonen cyn belled â Jerwsalem, Batane, Chelws, Cades ac afon yr Aifft; trigolion Taffnes, Rameses a holl wlad Gosen
10. cyn belled â Tanis a Memffis; a holl drigolion yr Aifft hyd at ffiniau Ethiopia.
11. Ond diystyrodd pawb o drigolion yr holl ranbarth neges Nebuchadnesar brenin Asyria, gan wrthod ymuno ag ef i ryfela. Nid oedd arnynt ei ofn; yn wir, nid oedd ef namyn un dyn yn eu golwg; anfonasant ei genhadau yn eu hôl yn waglaw ac yn waradwyddus.
12. Gwnaeth hyn Nebuchadnesar yn dra chynddeiriog tuag at yr holl ranbarth hwnnw, a thyngodd i'w orsedd a'i frenhiniaeth y byddai'n siŵr o ddial ar holl diriogaethau Cilicia, Damascus a Syria, a hefyd yn lladd â'r cleddyf holl drigolion gwlad Moab, yr Ammoniaid a holl Jwdea, a holl bobl yr Aifft hyd at derfynau'r ddau fôr.
13. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg anfonodd ei fyddin i ryfela yn erbyn y Brenin Arffaxad; bu'n fuddugoliaethus yn y frwydr a gyrru byddin Arffaxad ar ffo, ynghyd â'i holl wŷr meirch a'i holl gerbydau.