Judith 1:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd y Brenin Nebuchadnesar yn neuddegfed flwyddyn ei deyrnasiad ar yr Asyriaid yn Ninefe, y ddinas fawr.

2. Yn y dyddiau hynny, Arffaxad oedd yn teyrnasu ar y Mediaid yn Ecbatana, a chododd hwn furiau o gerrig nadd o amgylch Ecbatana. Yr oedd y cerrig yn dri chufydd o led a chwe chufydd o hyd, ac uchder y muriau a gododd oedd deg cufydd a thrigain, a'u lled yn hanner can cufydd.

3. Gosododd wrth byrth y ddinas dyrau can cufydd o uchder, a'u sylfeini'n drigain cufydd o led;

4. gwnaeth byrth hefyd a oedd yn codi i uchder o ddeg cufydd a thrigain, ac yn ddeugain cufydd o led, er mwyn i'w holl luoedd gychwyn allan mewn nerth, gyda'i wŷr traed yn eu rhengoedd.

5. Yn y dyddiau hynny, rhyfelodd y Brenin Nebuchadnesar yn erbyn y Brenin Arffaxad yn y gwastatir mawr, sef yr un sydd ar ffiniau Ragau.

6. Daeth i'w gyfarfod holl drigolion yr ucheldiroedd a phawb a drigai ar lannau afonydd Ewffrates, Tigris a Hydaspes, ac yn y gwastatir oedd yn eiddo i Arioch brenin Elam; ac ymunodd llawer o lwythau o feibion Chelewd â'r rheng ymladd.

7. Anfonodd Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid at holl drigolion Persia ac at holl drigolion y gorllewin: preswylwyr Cilicia a Damascus, Lebanon ac Antilibanon, holl drigolion yr arfordir;

Judith 1