Judith 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd y Brenin Nebuchadnesar yn neuddegfed flwyddyn ei deyrnasiad ar yr Asyriaid yn Ninefe, y ddinas fawr.

2. Yn y dyddiau hynny, Arffaxad oedd yn teyrnasu ar y Mediaid yn Ecbatana, a chododd hwn furiau o gerrig nadd o amgylch Ecbatana. Yr oedd y cerrig yn dri chufydd o led a chwe chufydd o hyd, ac uchder y muriau a gododd oedd deg cufydd a thrigain, a'u lled yn hanner can cufydd.

3. Gosododd wrth byrth y ddinas dyrau can cufydd o uchder, a'u sylfeini'n drigain cufydd o led;

Judith 1