Josua 9:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. daethant ynghyd fel un i ryfela yn erbyn Josua ac Israel.

3. Pan glywodd trigolion Gibeon yr hyn yr oedd Josua wedi ei wneud i Jericho ac Ai,

4. dyma hwythau'n gweithredu'n gyfrwys. Aethant a darparu bwyd, a llwytho'u hasynnod â hen sachau, a hen wingrwyn tyllog wedi eu trwsio.

5. Rhoesant am eu traed hen sandalau wedi eu clytio, a hen ddillad amdanynt; a bara wedi sychu a llwydo oedd eu bwyd.

6. Yna daethant at Josua i wersyll Gilgal, a dweud wrtho ef a phobl Israel, “Yr ydym wedi dod o wlad bell; felly gwnewch gyfamod â ni'n awr.”

7. Ond meddai pobl Israel wrth yr Hefiaid, “Efallai eich bod yn byw yn ein hymyl, ac os felly, sut y gwnawn ni gyfamod â chwi?”

Josua 9