Josua 9:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ymhen tridiau wedi iddynt wneud y cyfamod â hwy, clywsant mai cymdogion yn byw yn eu hymyl oeddent.

17. Wrth i'r Israeliaid deithio ymlaen, daethant ar y trydydd dydd i'w trefi hwy, Gibeon, Ceffira, Beeroth a Ciriath-jearim.

18. Ond nid ymosododd yr Israeliaid arnynt, oherwydd bod arweinwyr y gynulleidfa wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, er i'r holl gynulleidfa rwgnach yn erbyn yr arweinwyr.

19. Ond dywedodd yr holl arweinwyr wrth y gynulleidfa gyfan, “Yr ydym ni wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn awr ni allwn gyffwrdd â hwy.

Josua 9