Josua 8:8-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Wedi ichwi oresgyn y dref, llosgwch hi â thân. Gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD; edrychwch, dyma fy ngorchymyn i chwi.”

9. Wedi i Josua eu hanfon ymaith, aethant i guddfan a'u gosod eu hunain rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o Ai. Treuliodd Josua'r noson honno gyda'r fyddin.

10. Cododd Josua a'r henuriaid yn fore drannoeth a chynnull y fyddin a'i harwain tuag Ai.

11. Aeth yr holl fyddin oedd gydag ef i fyny, a nesáu at ymyl y dref a gwersyllu i'r gogledd iddi, gyda dyffryn rhyngddynt hwy ac Ai.

12. Yr oedd wedi dewis tua phum mil o wŷr ac wedi eu rhoi i guddio rhwng Bethel ac Ai i'r gorllewin o'r dref.

13. Yr oedd crynswth y fyddin yn gwersyllu i'r gogledd o'r dref a'r milwyr cudd i'r gorllewin o'r dref; treuliodd Josua y noson honno ar lawr y dyffryn.

14. Pan welodd brenin Ai hwy, brysiodd ef a dynion y dref yn gynnar yn y bore i fynd allan gyda'r holl fyddin i gyfarfod Israel mewn brwydr ar lecyn yn wynebu'r Araba, heb wybod bod milwyr yn llechu y tu ôl i'r dref.

15. Ffodd Josua a'r Israeliaid oll i gyfeiriad yr anialwch, fel pe baent wedi eu taro ganddynt.

16. Galwyd yr holl bobl oedd yn y dref i ymlid ar eu hôl; ac wrth iddynt ymlid ar ôl Josua, fe'u denwyd i ffwrdd o'r dref.

17. Nid oedd neb ar ôl yn Ai na Bethel heb fynd allan ar ôl Israel; gadawsant y dref yn benagored a mynd i ymlid yr Israeliaid.

18. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag Ai, oherwydd yr wyf am roi'r dref yn dy law.”

19. Estynnodd Josua'r waywffon oedd yn ei law tua'r dref; ac fel yr estynnai ei law, cododd y milwyr cudd o'u lle ar unwaith, a rhuthro i mewn i'r dref a'i chipio, a llosgi'r dref heb oedi dim.

20. Pan drodd dynion Ai ac edrych yn eu hôl, gwelsant fwg y dref yn esgyn i'r awyr, ond ni allent ffoi nac yma nac acw, gan fod y fyddin a fu'n ffoi tua'r anialwch wedi troi i wynebu ei herlidwyr;

21. oherwydd pan welodd Josua a holl Israel fod y milwyr cudd wedi cipio'r dref, a bod mwg yn codi ohoni, troesant yn eu hôl ac ymosod ar ddynion Ai.

22. Daeth y lleill allan o'r dref i'w cyfarfod, ac felly'r oeddent yn y canol rhwng dwy garfan o Israeliaid; trawyd hwy heb i neb gael ei arbed na dianc.

23. Daliwyd brenin Ai yn fyw, a daethant ag ef gerbron Josua.

24. Wedi i'r Israeliaid ladd holl drigolion Ai oedd allan yn yr anialwch, lle'r oeddent wedi eu hymlid, a phob un ohonynt wedi syrthio dan fin y cleddyf nes eu difa'n llwyr, yna dychwelodd Israel gyfan i Ai, a'i tharo â'r cleddyf.

Josua 8