Josua 8:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Daeth y lleill allan o'r dref i'w cyfarfod, ac felly'r oeddent yn y canol rhwng dwy garfan o Israeliaid; trawyd hwy heb i neb gael ei arbed na dianc.

23. Daliwyd brenin Ai yn fyw, a daethant ag ef gerbron Josua.

24. Wedi i'r Israeliaid ladd holl drigolion Ai oedd allan yn yr anialwch, lle'r oeddent wedi eu hymlid, a phob un ohonynt wedi syrthio dan fin y cleddyf nes eu difa'n llwyr, yna dychwelodd Israel gyfan i Ai, a'i tharo â'r cleddyf.

25. Nifer y rhai a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd deuddeng mil, yn wŷr a gwragedd, sef holl boblogaeth Ai.

26. Ni thynnodd Josua'n ôl y llaw oedd yn dal y waywffon nes difa holl drigolion Ai.

Josua 8