Josua 5:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yr adeg honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Darpara iti gyllyll callestr ac ailddechrau enwaedu ar yr Israeliaid.”

3. Paratôdd Josua gyllyll callestr ac enwaedodd ar yr Israeliaid yn Gibeath-araloth.

4. A dyma pam yr enwaedodd Josua arnynt: yr oedd yr holl fyddin a ddaeth allan o'r Aifft, sef yr holl wrywod oedd yn dwyn arfau, wedi marw yn yr anialwch ar eu taith o'r Aifft.

Josua 5