Josua 24:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Wedi'r pethau hyn bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed.

30. Claddwyd ef o fewn terfynau ei etifeddiaeth, yn Timnath-sera ym mynydd-dir Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaas.

31. Gwasanaethodd Israel yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid hynny a oroesodd Josua ac a wyddai am yr y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel.

Josua 24