Josua 24:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yna dywedodd Josua wrth yr holl bobl, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ers talwm yr oedd Tera, tad Abraham a Nachor eich hynafiaid, yn byw y tu hwnt i'r Ewffrates ac yn addoli duwiau estron.

3. Ond fe gymerais eich tad Abraham o'r tu hwnt i'r Ewffrates a'i arwain trwy holl wlad Canaan, ac amlhau ei ddisgynyddion. Rhoddais iddo Isaac;

4. ac i Isaac rhoddais Jacob ac Esau. Rhoddais fynydd-dir Seir yn eiddo i Esau, ond aeth Jacob a'i blant i lawr i'r Aifft.

5. Yna anfonais Moses ac Aaron, a gosod pla ar yr Aifft, trwy'r hyn a wneuthum yno; wedi hynny deuthum â chwi allan.

6. Deuthum â'ch hynafiaid allan o'r Aifft hyd at y môr, a'r Eifftiaid yn eu hymlid â cherbydau a gwŷr meirch hyd at y Môr Coch.

7. Gwaeddodd eich hynafiaid ar yr ARGLWYDD, a gosododd dywyllwch rhyngddynt a'r Eifftiaid, a pheri i'r môr eu goddiweddyd a'u gorchuddio. Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, ac wedi hynny buoch yn byw yn yr anialwch am gyfnod maith.

Josua 24