Josua 22:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Dyma chwi'n awr yn cefnu ar yr ARGLWYDD; ac os gwrthryfelwch yn ei erbyn ef heddiw, yna bydd ei ddicter yntau yn erbyn holl gynulleidfa Israel yfory.

19. Os yw'r wlad a feddiannwyd gennych yn aflan, dewch drosodd i wlad sydd ym meddiant yr ARGLWYDD, lle saif tabernacl yr ARGLWYDD, a derbyniwch ran yn ein plith ni. Peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, na ninnau, drwy adeiladu ichwi unrhyw allor ar wahân i allor yr ARGLWYDD ein Duw.

20. Pan droseddodd Achan fab Sera ynglŷn â'r diofryd, oni ddaeth dicter ar holl gynulleidfa Israel? Ac er mai un oedd ef, nid un yn unig a drengodd am ei drosedd.’ ”

Josua 22