Josua 21:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Cafodd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, dair dinas ar ddeg a'u porfeydd.

20. Gan lwyth Effraim y cafodd gweddill y Lefiaid o linach Cohath eu dinasoedd trwy goelbren, yn ôl teuluoedd y Cohathiaid.

21. Rhoesant Sichem, dinas noddfa i leiddiaid ym mynydd-dir Effraim, hefyd Geser,

22. Cibsaim a Beth-horon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

23. O lwyth Dan yr oedd Eltece, Gibbethon,

24. Ajalon a Gath-rimmon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

25. O hanner llwyth Manasse yr oedd Taanach a Gath-rimmon a'u porfeydd: dwy ddinas.

26. Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a'u porfeydd.

Josua 21