Josua 2:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Wedi i'r wraig gymryd y ddau ddyn a'u cuddio, dywedodd, “Do, fe ddaeth y dynion ataf, ond ni wyddwn o ble'r oeddent;

5. a chyda'r nos, pan oedd y porth ar fin cau, aeth y dynion allan. Ni wn i ble'r aethant, ond brysiwch ar eu hôl; yr ydych yn sicr o'u dal.”

6. Yr oedd hi wedi mynd â'r dynion i fyny ar y to, a'u cuddio â'r planhigion llin a oedd ganddi'n rhesi yno.

Josua 2