Josua 19:26-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd â Charmel a Sihor Libnath.

27. Yr oedd yn troi'n ôl tua'r dwyrain at Beth-dagon, ac yna'n cyffwrdd â Sabulon a dyffryn Jifftahel, ac yn mynd tua'r gogledd at Beth-emec a Neiel, heibio i Cabwl,

28. Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr.

29. Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib,

30. Acco, Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi.

31. Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.

32. I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau.

Josua 19