Josua 18:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth holl gynulliad Israel at ei gilydd i Seilo, a gosod yno babell y cyfarfod. Yr oedd y wlad wedi ei darostwng o'u blaen,

2. ond yr oedd ar ôl ymysg yr Israeliaid saith llwyth heb ddosrannu eu hetifeddiaeth.

3. Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Am ba hyd yr ydych am esgeuluso mynd i feddiannu'r tir a roddodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid ichwi?

4. Dewiswch dri dyn o bob llwyth, imi eu hanfon allan i gerdded y wlad a gwneud rhestrau ar gyfer ei hetifeddu, ac yna dod yn ôl ataf.

5. Y maent i'w rhannu'n saith rhan; y mae Jwda i gadw ei derfyn yn y de, a thŷ Joseff ei derfyn yn y gogledd.

6. Ac wedi ichwi ddosbarthu'r tir yn saith rhan, dewch â'r rhestrau ataf fi i'r fan hon, er mwyn imi fwrw coelbren drosoch yma gerbron yr ARGLWYDD ein Duw.

Josua 18