4. Daeth y rhain gerbron yr offeiriad Eleasar, Josua fab Nun a'r arweinwyr, a dweud, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses roi inni etifeddiaeth ymysg ein pobl.” Ac fe roddwyd iddynt etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD.
5. Felly disgynnodd deg rhan i Manasse, yn ychwanegol at dir Gilead a Basan y tu hwnt i'r Iorddonen,
6. am fod merched Manasse wedi etifeddu cyfran ynghyd â'r meibion; aeth tir Gilead i weddill meibion Manasse.
7. Yr oedd terfyn Manasse'n ymestyn o Aser i Michmetha, sydd i'r dwyrain o Sichem, ac ymlaen i'r de at Jasub ger En-tappua.
8. Perthyn i Manasse yr oedd tir Tappua, ond yr oedd Tappua ei hun ar derfyn Manasse ac yn perthyn i blant Effraim.
9. Âi'r terfyn i lawr nant Cana i'r de. Trefi yn perthyn i Effraim oedd y rhai ar ochr ddeheuol y nant, er eu bod yng nghanol trefi Manasse, a bod terfyn Manasse yn rhedeg ar ochr ogleddol y nant nes cyrraedd y môr.
10. Yr oedd y tir i'r de'n perthyn i Effraim, ond y tir i'r gogledd yn perthyn i Manasse. Yr oedd tir Manasse'n ymestyn at y môr, ac yn ffinio ar Aser i'r gogledd ac ar Issachar i'r dwyrain.
11. O fewn Issachar ac Aser, eiddo Manasse oedd Beth-sean ac Ibleam a'u maestrefi, a hefyd y rhai oedd yn byw yn Dor, Endor, Taanach a Megido a'u maestrefi. Naffath yw'r drydedd dref uchod.
12. Ni allodd Manasse feddiannu'r trefi hyn; felly daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad.
13. Ond wedi i'r Israeliaid ymgryfhau, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, er iddynt fethu eu disodli'n llwyr.
14. Dywedodd disgynyddion Joseff wrth Josua, “Pam na roddaist inni ond un gyfran ac un rhandir yn etifeddiaeth, a ninnau'n bobl niferus, ac wedi'n bendithio mor helaeth gan yr ARGLWYDD?”
15. Atebodd Josua hwy, “Os ydych yn bobl mor niferus, a mynydd-dir Effraim yn rhy gyfyng i chwi, ewch i fyny i'r goedwig a chlirio tir ichwi'ch hunain yno, yn nhiriogaeth y Peresiaid a'r Reffaim.”