Josua 17:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Dywedodd disgynyddion Joseff, “Nid yw'r mynydd-dir yn ddigon inni, ac y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sy'n byw ar y gwastatir yn Beth-sean a'i maestrefi, ac yn nyffryn Jesreel.”

17. Yna dywedodd Josua wrth Effraim a Manasse, teulu Joseff, “Yr ydych yn bobl niferus, ac yn nerthol iawn; nid un gyfran yn unig a gewch,

18. ond bydd y mynydd-dir hefyd yn eiddo ichwi; ac er mai coetir yw, cliriwch ef a'i feddiannu i'w gwr pellaf; yna byddwch yn disodli'r Canaaneaid, er eu bod yn gryfion a cherbydau heyrn ganddynt.”

Josua 17