Josua 17:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna rhoddwyd rhandir i lwyth Manasse, oherwydd ef oedd cyntafanedig Joseff. Machir oedd cyntafanedig Manasse a thad Gilead, ac am ei fod yn rhyfelwr, iddo ef y daeth Gilead a Basan.

2. Rhannwyd tir hefyd i weddill Manasse yn ôl eu tylwythau, sef i feibion Abieser, Helech, Asriel, Sichem, Heffer a Semida. Y rhain oedd bechgyn Manasse fab Joseff yn ôl eu tylwythau.

3. Ond am Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, nid oedd ganddo feibion ond merched yn unig, a dyma'u henwau: Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.

4. Daeth y rhain gerbron yr offeiriad Eleasar, Josua fab Nun a'r arweinwyr, a dweud, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses roi inni etifeddiaeth ymysg ein pobl.” Ac fe roddwyd iddynt etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD.

5. Felly disgynnodd deg rhan i Manasse, yn ychwanegol at dir Gilead a Basan y tu hwnt i'r Iorddonen,

6. am fod merched Manasse wedi etifeddu cyfran ynghyd â'r meibion; aeth tir Gilead i weddill meibion Manasse.

Josua 17