Josua 16:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Hon oedd yr etifeddiaeth a gafodd Manasse ac Effraim, meibion Joseff.

5. Dyma derfyn yr Effraimiaid yn ôl eu tylwythau: yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth yn ymestyn o Ataroth-adar yn y dwyrain hyd Beth-horon Uchaf;

6. yna âi ymlaen at y môr, at Michmetha yn y gogledd, a throi i'r dwyrain o Taanath-seilo a mynd heibio iddi i'r dwyrain at Janoha.

7. Âi i lawr o Janoha i Ataroth a Naarath, gan gyffwrdd â Jericho ac ymlaen at yr Iorddonen.

8. O Tappua âi'r terfyn tua'r gorllewin ar hyd nant Cana nes cyrraedd y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth Effraim yn ôl eu tylwythau.

Josua 16