Josua 14:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Felly rho imi'n awr y mynydd-dir hwn a addawodd yr ARGLWYDD y pryd hwnnw; oherwydd fe glywaist ti dy hun yr adeg honno fod Anacim yno, a bod eu dinasoedd yn rhai mawr a chaerog; ond odid na fydd yr ARGLWYDD gyda mi, ac fe'u gyrraf hwy allan, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.”

13. Bendithiodd Josua ef a rhoddodd Hebron yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.

14. Dyna pam y mae Hebron yn feddiant i Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad hyd heddiw, am, iddo lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel.

15. Enw Hebron gynt oedd Ciriath-arba, ar ôl Arba, prif ddyn yr Anacim. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.

Josua 14