Josua 14:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yn awr, dyma'r ARGLWYDD wedi f'arbed, fel yr addawodd, dros y pum mlynedd a deugain hyn er pan lefarodd yr ARGLWYDD yr addewid hon wrth Moses, pan oedd Israel yn rhodio'r anialwch; a dyma fi heddiw yn bump a phedwar ugain oed.

11. Yr wyf mor gryf heddiw ag ar y diwrnod yr anfonodd Moses fi; y mae fy nerth cystal yn awr â'r adeg honno i ryfela ac i arwain byddin.

12. Felly rho imi'n awr y mynydd-dir hwn a addawodd yr ARGLWYDD y pryd hwnnw; oherwydd fe glywaist ti dy hun yr adeg honno fod Anacim yno, a bod eu dinasoedd yn rhai mawr a chaerog; ond odid na fydd yr ARGLWYDD gyda mi, ac fe'u gyrraf hwy allan, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.”

Josua 14