Josua 12:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. hefyd dros ddwyrain yr Araba o lan Môr Cinneroth at lan môr yr Araba, sef y Môr Marw, i gyfeiriad Beth-jesimoth ac ymlaen i'r de dan lethrau Pisga.

4. Og brenin Basan, un o weddill y Reffaim, a oedd yn byw yn Astaroth ac yn Edrei.

5. Yr oedd ef yn llywodraethu dros Fynydd Hermon, Salcha, a Basan i gyd, hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a thros hanner Gilead hyd at derfyn Sihon brenin Hesbon.

6. Fe'u gorchfygwyd gan Moses gwas yr ARGLWYDD a'r Israeliaid; a rhoddodd Moses gwas yr ARGLWYDD y tir yn feddiant i'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse.

7. Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan Josua a'r Israeliaid i'r gorllewin o'r Iorddonen, o Baal-gad yn nyffryn Lebanon hyd at Fynydd Halac sy'n codi i gyfeiriad Seir. Rhoddodd Josua'r tir yn feddiant i lwythau Israel yn ôl eu cyfrannau

8. yn y mynydd-dir, y Seffela, yr Araba, y llechweddau, y diffeithwch a'r Negef; yno'r oedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. Dyma'r brenhinoedd:

9. brenin Jericho, brenin Ai ger Bethel,

10. brenin Jerwsalem, brenin Hebron,

11. brenin Jarmuth, brenin Lachis,

12. brenin Eglon, brenin Geser,

13. brenin Debir, brenin Geder,

14. brenin Horma, brenin Arad,

15. brenin Libna, brenin Adulam,

16. brenin Macceda, brenin Bethel,

Josua 12