Josua 11:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Gorchfygodd Josua y cwbl o'r wlad hon: y mynydd-dir, y Negef i gyd, holl wlad Gosen, y Seffela a'r Araba; hefyd mynydd-dir Israel a'r Seffela,

17. o Fynydd Halac sy'n codi tua Seir hyd at Baal-gad yn nyffryn Lebanon dan Fynydd Hermon. Gorchfygodd ei brenhinoedd i gyd, a'u taro a'u lladd.

18. Bu Josua'n ymladd â'r holl frenhinoedd hyn am amser maith.

19. Ni wnaeth yr un ddinas gytundeb heddwch â'r Israeliaid, heblaw'r Hefiaid oedd yn byw yn Gibeon; cymryd y cwbl trwy ryfel a wnaethant.

20. Yr ARGLWYDD oedd yn caledu eu calon i ryfela yn erbyn Israel, er mwyn iddynt eu difodi yn ddidrugaredd, ac yn wir eu distrywio fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

21. Y pryd hwnnw aeth Josua a difa'r Anacim o'r mynydd-dir o gwmpas Hebron, Debir, ac Anab, ac o holl fynydd-dir Jwda ac Israel; difododd Josua hwy a'u dinasoedd.

Josua 11