Jona 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna gweddïodd Jona ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn a dweud,

2. “Gelwais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi;o ddyfnder Sheol y gwaeddais, a chlywaist fy llais.

3. Teflaist fi i'r dyfnder, i eigion y môr, a'r llanw yn f'amgylchu;yr oedd dy holl donnau a'th lifeiriant yn mynd dros fy mhen.

4. Yna dywedais, ‘Fe'm gyrrwyd allan o'th olwg di;sut y caf edrych eto ar dy deml sanctaidd?’

5. Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas;clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd;

Jona 2