Joel 3:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau.

6. Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror.

7. Ond yn awr fe'u galwaf o'r mannau lle'u gwerthwyd, a dychwelaf eich tâl ar eich pen chwi eich hunain.

8. Gwerthaf eich bechgyn a'ch merched i bobl Jwda, a byddant hwythau'n eu gwerthu i'r Sabeaid, cenedl bell.” Yr ARGLWYDD a lefarodd.

9. “Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd:‘Ymgysegrwch i ryfel;galwch y gwŷr cryfion;doed y milwyr ynghyd i ymosod.

10. Curwch eich ceibiau'n gleddyfaua'ch crymanau'n waywffyn;dyweded y gwan, “Rwy'n rhyfelwr.”

11. “ ‘Dewch ar frys,chwi genhedloedd o amgylch,ymgynullwch yno.’ ”Anfon i lawr dy ryfelwyr, O ARGLWYDD.

12. “Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyda dyfod i ddyffryn Jehosaffat;oherwydd yno'r eisteddaf mewn barnar yr holl genhedloedd o amgylch.

13. “Codwch y cryman,y mae'r cynhaeaf yn barod;dewch i sathru,y mae'r gwinwryf yn llawn;y mae'r cafnau'n gorlifo,oherwydd mawr yw eu drygioni.”

14. Tyrfa ar dyrfayn nyffryn y ddedfryd,oherwydd agos yw dydd yr ARGLWYDDyn nyffryn y ddedfryd.

15. Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu,a'r sêr yn atal eu goleuni.

16. Rhua'r ARGLWYDD o Seion,a chodi ei lef o Jerwsalem;cryna'r nefoedd a'r ddaear.Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl,ac yn noddfa i blant Israel.

17. “Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw,yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd.A bydd Jerwsalem yn sanctaidd,ac nid â dieithriaid trwyddi eto.

18. “Yn y dydd hwnnw,difera'r mynyddoedd win newydd,a llifa'r bryniau o laeth,a bydd holl nentydd Jwda yn llifo o ddŵr.Tardd ffynnon o dŷ'r ARGLWYDDa dyfrhau dyffryn Sittim.

Joel 3