Joel 2:30-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. “Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear,gwaed a thân a cholofnau mwg.

31. Troir yr haul yn dywyllwcha'r lleuad yn waedcyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.

32. A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub,oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol,fel y dywedodd yr ARGLWYDD,ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.”

Joel 2