Joel 2:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. “Ar ôl hyntywalltaf fy ysbryd ar bawb;bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion,a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau.

29. Hyd yn oed ar y gweision a'r morynionfe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.”

30. “Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear,gwaed a thân a cholofnau mwg.

31. Troir yr haul yn dywyllwcha'r lleuad yn waedcyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.

Joel 2