Job 9:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun;yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.

22. Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedafei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.

23. Os dinistr a ladd yn ddisymwth,fe chwardd am drallod y diniwed.

24. Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus,fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr.Os nad ef, pwy yw?

25. “Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr;y maent yn diflannu heb weld daioni.

26. Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn,fel eryr yn disgyn ar gelain.

27. Os dywedaf, ‘Anghofiaf fy nghwyn,newidiaf fy mhryd a byddaf lawen’,

28. eto arswydaf rhag fy holl ofidiau;gwn na'm hystyri'n ddieuog.

29. A bwrw fy mod yn euog,pam y llafuriaf yn ofer?

Job 9