Job 9:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Gwn yn sicr fod hyn yn wir,na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.

3. Os myn ymryson ag ef,nid etyb ef unwaith mewn mil.

4. Y mae'n ddoeth a chryf;pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?

5. Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod,ac yn eu dymchwel yn ei lid.

6. Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,a chryna'i cholofnau.

7. Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi,ac yn gosod sêl ar y sêr.

Job 9