Job 8:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Er eu bod yn ir a heb eu torri,eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.

13. Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,ac y derfydd gobaith yr annuwiol.

14. Edau frau yw ei hyder,a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.

15. Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;cydia ynddo, ond ni ddeil.

16. Bydd yn ir yn llygad yr haul,yn estyn ei frigau dros yr ardd;

17. ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,a daw i'r golwg rhwng y meini.

18. Ond os diwreiddir ef o'i le,fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.

Job 8