Job 7:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Fel y cili'r cwmwl a diflannu,felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;

10. ni ddaw eto i'w gartref,ac nid edwyn ei le mohono mwy.

11. “Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau;llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd,cwynaf yn chwerwder fy enaid.

12. Ai'r môr ydwyf, neu'r ddraig,gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?

13. “Pan ddywedaf, ‘Fy ngwely a rydd gysur imi;fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn’,

14. yr wyt yn fy nychryn â breuddwydion,ac yn f'arswydo â gweledigaethau.

15. Gwell fyddai gennyf fy nhagu,a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.

Job 7