Job 6:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?

6. A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen?A oes blas ar sudd y malws?

7. Y mae fy stumog yn eu gwrthod;y maent fel pydredd fy nghnawd.

8. “O na ddôi fy nymuniad i ben,ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!

9. O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,ac estyn ei law i'm torri i lawr!

10. Byddai o hyd yn gysur imi,a llawenhawn yn yr ing diarbed(nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).

11. Pa nerth sydd gennyf i obeithio,a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?

12. Ai nerth cerrig yw fy nerth?Ai pres yw fy nghnawd?

13. Wele, nid oes imi gymorth ynof,a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.

Job 6