Job 6:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yna byddai'n drymach na thywod y môr;am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.

4. Y mae saethau'r Hollalluog ynof;yfodd fy ysbryd eu gwenwyn;dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.

5. A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?

6. A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen?A oes blas ar sudd y malws?

7. Y mae fy stumog yn eu gwrthod;y maent fel pydredd fy nghnawd.

8. “O na ddôi fy nymuniad i ben,ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!

9. O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,ac estyn ei law i'm torri i lawr!

Job 6