Job 6:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?

27. A fwriech goelbren am yr amddifad,a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?

28. Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf;ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?

29. Trowch; na foed anghyfiawnder.Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.

30. A oes anghyfiawnder ar fy nhafod?Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?”

Job 6