Job 6:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;

23. achubwch fi o afael y gelyn,a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?

24. “Hyfforddwch fi, a thawaf;a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.

25. Mor ddi-flas yw geiriau uniawn!Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?

26. A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?

27. A fwriech goelbren am yr amddifad,a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?

28. Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf;ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?

29. Trowch; na foed anghyfiawnder.Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.

30. A oes anghyfiawnder ar fy nhafod?Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?”

Job 6