Job 6:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. yn dywyll gan rew,ac eira yn cuddio ynddynt.

17. Ond pan ddaw poethder fe beidiant,ac yn y gwres diflannant o'u lle.

18. Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.

19. Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.

20. Cywilyddir hwy yn eu hyder;dônt atynt, ac fe'u siomir.

21. Felly yr ydych chwithau i mi;gwelwch drychineb, a dychrynwch.

Job 6