Job 6:12-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ai nerth cerrig yw fy nerth?Ai pres yw fy nghnawd?

13. Wele, nid oes imi gymorth ynof,a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.

14. Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf,er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.

15. Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;fel nentydd sy'n gorlifo,

16. yn dywyll gan rew,ac eira yn cuddio ynddynt.

17. Ond pan ddaw poethder fe beidiant,ac yn y gwres diflannant o'u lle.

18. Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.

19. Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.

20. Cywilyddir hwy yn eu hyder;dônt atynt, ac fe'u siomir.

21. Felly yr ydych chwithau i mi;gwelwch drychineb, a dychrynwch.

22. A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;

23. achubwch fi o afael y gelyn,a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?

24. “Hyfforddwch fi, a thawaf;a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.

25. Mor ddi-flas yw geiriau uniawn!Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?

26. A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?

27. A fwriech goelbren am yr amddifad,a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?

28. Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf;ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?

29. Trowch; na foed anghyfiawnder.Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.

30. A oes anghyfiawnder ar fy nhafod?Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?”

Job 6