Job 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atebodd Job:

2. “O na ellid pwyso fy nhrallod,a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!

3. Yna byddai'n drymach na thywod y môr;am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.

4. Y mae saethau'r Hollalluog ynof;yfodd fy ysbryd eu gwenwyn;dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.

5. A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?

Job 6