Job 5:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,rhyfeddodau dirifedi.

10. Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,a'r dyfroedd ar y meysydd.

11. Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.

12. Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;ni all eu dwylo wneud dim o fudd.

13. Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,a buan y diflanna cynllun y dichellgar.

14. Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd,ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.

15. Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael,a'r truan o afael y cryf.

16. Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,ac anghyfiawnder yn cau ei safn.

Job 5