Job 5:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. ond genir dynion i orthrymder,cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.

8. “Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i,a gosod fy achos o'i flaen ef,

9. yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,rhyfeddodau dirifedi.

10. Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,a'r dyfroedd ar y meysydd.

11. Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.

12. Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;ni all eu dwylo wneud dim o fudd.

Job 5