Job 5:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Y mae dicter yn lladd yr ynfyd,a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.

3. Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd,ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;

4. ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared,wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.

5. Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef,ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain;ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.

6. Canys nid o'r pridd y daw gofid,nac o'r ddaear orthrymder;

Job 5